Join our mailing list to get regular email updates and info on what we're up to!
If you are under 18, please make sure you have your parents’ permission before providing us with any personal details.
Croeso i Brook! Mae ein gwasanaeth addysg newydd yng Nghymru yn cefnogi pob person ifanc 11 oed a hŷn i gael addysg gynhwysfawr sy’n briodol i’w hoedran ar Bornograffi, Casineb at Fenywod a Stereoteipiau Rhywedd, yn ogystal â chynnig hyfforddiant am ddim i athrawon a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc.
Mae ein cynnig addysg yn Ne Cymru ar gael yn rhad ac am ddim ar gyfer y lleoliadau canlynol:
Rydyn ni’n cynnig gweithdai addysg mewn ysgolion a lleoliadau addysg bellach yn yr ardaloedd a restrir uchod, gan ganolbwyntio ar:
A phynciau cysylltiedig eraill.
I bobl ifanc yn Ne Cymru sy’n chwilio am gymorth ychwanegol gyda pherthnasoedd iach, cydsyniad, iechyd rhywiol a llesiant, rydyn ni’n cynnig ein rhaglen ymyrraeth gynnar “Fy Mywyd”. Mae Fy Mywyd ar gael fel rhaglen grŵp neu 1:1 gydag Arbenigwr Brook.
Mae’r sesiynau hyn wedi’u teilwra i anghenion unigol ac yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau addysg bersonol, gymdeithasol ac iechyd, gan ddefnyddio technegau cymell a hyfforddi o becyn adnoddau sy’n seiliedig ar ansawdd
Rydyn ni’n cynnal sesiynau dysgu ar-lein ar gyfer athrawon a phobl sy’n gweithio gyda phobl ifanc ar bynciau amrywiol drwy gydol y flwyddyn. Gallai’r pynciau gynnwys:
Mae’r sesiynau hyn yn gyfle i athrawon a gweithwyr proffesiynol ofyn cwestiynau am bynciau, dysgu gan arbenigwyr Brook a rhannu enghreifftiau o arferion gorau.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych chi ddiddordeb yn ein cynnig yn Ne Cymru, anfonwch e-bost i southwales.education@brook.org.uk – byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.