• Help & Advice
  • Find a Service
    Close icon

ADDYSG YNG NGHYMRU

Read this page in English

Croeso i Brook! Mae ein gwasanaeth addysg newydd yng Nghymru yn cefnogi pob person ifanc 11 oed a hŷn i gael addysg gynhwysfawr sy’n briodol i’w hoedran ar Bornograffi, Casineb at Fenywod a Stereoteipiau Rhywedd, yn ogystal â chynnig hyfforddiant am ddim i athrawon a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc.

Cliciwch ar eich ardal isod i gael gwybod sut gallwn ni helpu.


Gogledd Cymru

Three young people sat at a desk looking at handouts

Gweithdai addysg

Rydyn ni’n cynnig gweithdai addysg yn holl ysgolion uwchradd a lleoliadau addysg bellach Gogledd Cymru, gan ganolbwyntio ar y canlynol:

Ymwybyddiaeth o bornograffi

Deall a herio casineb at fenywod a stereoteipiau rhywedd

A phynciau cysylltiedig eraill.

A laptop screen showing two Brook staff presenting as part of the Big Period Lesson

Hyfforddiant ar-lein

Rydyn ni’n cynnal sesiynau dysgu ar-lein ar gyfer athrawon a phobl sy’n gweithio gyda phobl ifanc ar bynciau amrywiol drwy gydol y flwyddyn. Gallai’r pynciau gynnwys:

  • Ymwybyddiaeth o bornograffi
  • Archwilio gwrywdod a mynd i’r afael â chasineb at fenywod
  • Rheoli datgeliadau o aflonyddu rhywiol

Mae’r sesiynau hyn yn gyfle i athrawon a gweithwyr proffesiynol ofyn cwestiynau am bynciau, dysgu gan arbenigwyr Brook a rhannu enghreifftiau o arferion gorau.

Yn dod yn fuan! Dewch yn ôl yma i gael rhagor o wybodaeth am ein gweminarau

Cysylltwch â ni

Os oes gennych chi ddiddordeb yn ein cynnig yng Ngogledd Cymru, anfonwch e-bost i northwales.education@brook.org.uk – byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.


De Cymru

Mae ein cynnig addysg yn Ne Cymru ar gael yn rhad ac am ddim ar gyfer y lleoliadau canlynol:

  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Bro Morgannwg
  • Rhondda Cynon Taf
  • Merthyr Tudful
  • Caerffili
  • Blaenau Gwent
  • Torfaen
  • Sir Fynwy
  • Casnewydd
  • Caerdydd
  • Castell-nedd Port Talbot
Three young people sat at a desk looking at handouts

Gweithdai addysg

Rydyn ni’n cynnig gweithdai addysg mewn ysgolion a lleoliadau addysg bellach yn yr ardaloedd a restrir uchod, gan ganolbwyntio ar:

  • Ymwybyddiaeth o bornograffi
  • Deall a herio casineb at fenywod a stereoteipiau rhywedd

A phynciau cysylltiedig eraill.

Young person talking to a clinician in a clinic.

Rhaglen Fy Mywyd i bobl ifanc

I bobl ifanc yn Ne Cymru sy’n chwilio am gymorth ychwanegol gyda pherthnasoedd iach, cydsyniad, iechyd rhywiol a llesiant, rydyn ni’n cynnig ein rhaglen ymyrraeth gynnar “Fy Mywyd”. Mae Fy Mywyd ar gael fel rhaglen grŵp neu 1:1 gydag Arbenigwr Brook.

Mae’r sesiynau hyn wedi’u teilwra i anghenion unigol ac yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau addysg bersonol, gymdeithasol ac iechyd, gan ddefnyddio technegau cymell a hyfforddi o becyn adnoddau sy’n seiliedig ar ansawdd

A laptop screen showing two Brook staff presenting as part of the Big Period Lesson

Hyfforddiant ar-lein

Rydyn ni’n cynnal sesiynau dysgu ar-lein ar gyfer athrawon a phobl sy’n gweithio gyda phobl ifanc ar bynciau amrywiol drwy gydol y flwyddyn. Gallai’r pynciau gynnwys:

  • Ymwybyddiaeth o bornograffi
  • Archwilio gwrywdod a mynd i’r afael â chasineb at fenywod
  • Rheoli datgeliadau o aflonyddu rhywiol

Mae’r sesiynau hyn yn gyfle i athrawon a gweithwyr proffesiynol ofyn cwestiynau am bynciau, dysgu gan arbenigwyr Brook a rhannu enghreifftiau o arferion gorau.

Yn dod yn fuan! Dewch yn ôl yma i gael rhagor o wybodaeth am ein gweminarau

Cysylltwch â ni

Os oes gennych chi ddiddordeb yn ein cynnig yn Ne Cymru, anfonwch e-bost i southwales.education@brook.org.uk – byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.